Pedwar Ffrancwr ym Merthyr Tudful

Hoffwn dynnu sylw at grwp o bedwar teithiwr Ffrangeg sydd wedi disgrifio Merthyr yn 60au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dewisais rhain am eu bod yn cynnig newid diddorol o’r holl ddisgrifiadau o dirluniau a mynyddoedd aruchel ac adfeilion cestyll – rydyn ni’n fwy cyfarwydd, efallai, â’r teithwyr Rhamantaidd oedd yn chwilio am ail Swistir (maent yn parhau drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg), neu am orffennol canoloesol. I’r gwrthwyneb, mae’r grwp yma yma yn ceisio cael cip ar y dyfodol. Maent yng Nghymru er mwyn gweld y chwyldro diwydiannol a’u llygaid eu hunain.

Ond mae’r rhain yn rhannu yn ddiddorol iawn mewn i ddau is-grwp.

Yn gyntaf Alphonse Esquiros (1812-1876) a Louis Simonin (1830-1886).

Roedd Esquiros yn byw’n alltud ym Mhrydain yn dilyn Chwyldro 1848 – roedd yn newyddiadurwr, a bu’n rhaid iddo ddianc yn dilyn coup d’état Louis-Napoléon’s yn 1851. Felly ennill arian oedd pwrpas ysgrifennu iddo ef, ac fe ysgrifennodd dywys lyfr ar Brydain i’r gyfres boblogaidd Guides Joanne, ac erthygl swmpus iawn ar dde Cymru. Yn annisgwyl, efallai, mewn tywyslyfr, ceir beirniadaeth gymdeithasol:

‘En dépit de cette prospérité industrielle, la ville [Merthyr] est sale, triste, malsaine, à cause de l’accumulation des habitants dans des rues étroites et fangeuses. […] Il serait temps que ceux qui profitent de ces travaux, sources de si grandes richesses, songeassent à améliorer l’état du peuple.’

Er gwaetha’r ffyniant diwydiannol, mae Merthyr yn frwnt, yn drist, ac yn afiach, oherwydd y nifer o drigolion sy’n byw ar ben ei gilydd mewn strydoedd cul a mwdlyd. […] Hen bryd i’r rheiny wy’n elwa o’r gweithfeydd hyn, ffynhonell cymaint o gyfoeth, feddwl am wella sefyllfa’r bobl.

Mae Simonin yng Nghymru yn ymweld ag ardaloedd diwydiannol am resymau proffesiynnol, ac mae ef hefyd yn feirniadol o’r cyni a wel ar strydoedd Merthyr.

‘Quelle misère écœurante, grand Dieu! Et se peut-il que dans un pays en apparence si riche, si industriel, il y ait des gens à ce point déshérités!’

Am dlodi torcalonnus, Dduw mawr ! Ydy hi’n bosib mewn gwlad sy’n ymddangos mor gyfoethod, mor ddiwydiannol, bod yna bobl mor amddifad â hyn !

Lladd ar Brydain, sef prif gystadleuaeth Ffrainc ar lwyfan y byd, yw ei nod, ac felly mae’n pwysleisio mai lwc yn unig sy’n gyfrifol am y llwyddiant diwydiannol :

‘La nature a seule préparé la situation’

Natur yn unig a baratôdd y sefyllfa

h.y. nid gweithio’n galed mae’r Prydeinwyr, ac nid clyfar chwaith, dim ond lwcus eu bod wedi cael eu geni ar ben yr holl fwynau hyn.

Mae’r ail grwp yn cynnwys Alfred Erny (g. 1838) a Henri Martin (1810-1833). Mae’r ddau hyn yn ffrindiau mawr, ac yn rhannu’r un rhagfarn. Maent yma er mwyn profi pa mor wych yw’r Celtiaid. Felly yn lle gweld tlodi a baw maent yn mynnu gweld cydbwysedd perffaith o ddiwylliant (barddoniaeth, cerddoriaeth, eisteddfodau, yr iaith Gymraeg, byd natur, ac ati) a moderneiddio cyffrous a llesol i bawb. Mewn disgrifiad o’r llygredd yn Abertawe oherwydd y gweithfeydd copr, honna Erny’n glir nad yw hyn yn achosi problem o fath yn y byd i’r gweithywr:

‘Partout le sol est aride et dégarni de verdure; on affirme pourtant que cette atmosphère n’est pas pernicieuse aux ouvriers, et qu’un grand nombre d’entre eux arrivent à un âge très-avancé.’

Ym mhobman mae’r tir yn gras ac yn foel ; dywedir, fodd bynnag, nad yw’r awyrgylch yn ddrwg i’r gweithwyr o gwbl, a bod nifer fawr ohonynt yn byw bywydau hir iawn

Mae Henri Martin, oedd yn hanesydd reit enwog yn ei ddydd, yr un mor ddall i broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal.

‘l’aspect de ce pays est extraordinaire; il n’est pas triste’

mae’r ardal yn edrych yn eithriadol ; dyw hi ddim yn drist

ac eto, wrth sôn am domenni o slag, pwysleisia eu bod yn troi’n wyrdd yn raddol wrth i natur a bywyd gymryd drosodd:

‘ils se couvrent de verdure et cachent peu à peu la trace de leur origine en entrant dans le domaine de la végétation et de la vie’

fe’u gorchuddir â gwyrddni nes cuddio eu tarddiad bob yn dipyn, wrth ymuno â theyrnas planhigion a bywyd.

Beth sy’n gyfrifol am yr hud a lledrith? Sut all y teithwyr weld pethau mor wahanol? Yr esboniad yw bod Erny a Martin yn rhan o’r symudiad i brofi mai Celtiaid oedd gwir gyndeidiau’r Ffrancwyr, syniad a ddaeth yn boblogaidd iawn yn dilyn y Chwyldro Ffrengig. Dyma ddangos, yn gyflym iawn, i ba raddu mae’r teithwyr yn gallu dangos fersiynnau gwahanol o Gymru inni, ac hefyd bwysigrwydd y cyd-destun nôl yn Ffrainc i’r hyn maent yn ei weld yng Nghymru.

Mae’r gwaith hwn yn ffrwyth prosiect ymchwil Teithwyr Ewropeaidd i Gymru a gyllidir gan yr AHRC. Gweler gwefan y prosiect am ragor o fanylion.

 

 

Advertisements
This entry was posted in Cymraeg, Cymru, European Travellers to Wales, Travel writing, Uncategorized, Wales and tagged , , , , , , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s