Llygaid Ewrop ar Aberystwyth

 

Mae llygaid Aberystwyth a Phrydain gyfan wedi bod ar Ewrop yn fwy nag erioed ers refferendwm  Mehefin 2016.  Beth tybed yw barn Ewropeaid amdanom ni yma yn Aberystwyth?

Dros ddwy ganrif yn ôl teithiodd Louis Simond trwy Gymru gan dalu sylw manwl at y bobl a’r tirlun ar y ffordd rhwng Aberaeron ac Aberystwyth ar 20 Gorffennaf 1810. Dyma bobl hoffus, meddai yn ei daithlyfr, sy’n nodio’n gwrtais wrth weld y teithwyr yn mynd heibio, ac yn fwy na hynny maent yn bertach na’r Saeson. ‘Jolies personnes’ [pobl bert] yw’r bobl, ac mae’n ofalus i bwysleisio nad yn Lloegr y mae, ond yn ‘pays de Galles’ sydd yn lle gwahanol.

Erbyn oes y trên stêm tyfodd poblogrwydd y taithlyfr ymarferol yn llawn tips i dwristiaid, ac un o’r rhai cynharaf o’r Cyfandir i fanteisio ar y rhwydwaith haearn newydd ac sy’n sôn am Aberystwyth yw eiddo Alphonse Esquiros, Itinéraire descriptif et historique de la Grande-Bretagne et de l’Irlande (1865). Ers mis Mai 1864 roedd y rheilffordd a arferai stopio yn y Borth yn mynd  yr holl ffordd i Aberystwyth, cyhoedda i ddarpar dwristiaid Ffrangeg eu hiaith. Ond well iddyn nhw ddod yma ar hast oherwydd ofna Esquiros y bydd cynddaredd y tonnau yn chwipio’r castell a’r dref i ganol y môr: ‘Bydd hi’n anodd i’r clogwyni llechi eu hunain wrthsefyll, a’r môr yn bygwth sgubo’r cwbl ymaith ryw ddiwrnod’. Ceisio cael deupen llinyn ynghyd roedd Esquiros wrth ysgrifennu, gan iddo orfod gadael Ffrainc yn sgîl chwyldro 1848, ac mae’n bosib ei fod yn ‘benthyg’ o daith lyfrau Saesneg y cyfnod. Ond mae ei lyfr yn rhoi syniad inni beth allai Ffrancwr o 1865 wybod am Aberystwyth, a cheir digon o annogaeth iddynt ymweld: golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion yn llawn cychod stêm, hwylio a physgota, digonedd o lety, a’r rhai gorau i’w cael gyferbyn â’r cabanau bach ymdrochi a’r baddonau dŵr môr wedi ei wresogi.

Un a ddefnyddiodd y taithlyfr, ac a’i argymhellodd i eraill, oedd Albert Huet, awdur Un tour au pays de Galles [Tro yng Nghymru] (1877). Mae’n llai brwd na Simond am y ffordd tuag Aberystwyth, gan gwyno ei bod ‘braidd yn ddiflas, yng nghanol caeau’. Ac wedi cyrraedd yno mae’n annog unrhyw ymwelydd i osgoi’r trip poblogaidd i Bontarfynach (mae’n ‘daith annodweddiadol’), ac yn wir i osgoi oedi yn Aber yn gyfangwbl. Gwell fyddai anelu am y Borth, sy’n bertach o’r hanner!

I ddysgu rhagor am y teithwyr hyn, ewch i wefan prosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’.

Advertisements
This entry was posted in Cymraeg, Cymru, European Travellers to Wales, Travel writing, Wales and tagged , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s