Pen and Plough, Diarmuid Johnson

Scroll down for English

Ymateb personol a geir yma i Pen and Plough, a lansiwyd yn Siop y Pethe, Aberystwyth ar 30 Tachwedd 2016.

Mae’r rheiny ohonoch chi sy’n fy adnabod i yn fy nghysylltu i, o bosib, â chorff gwahanol iawn o farddoniaeth i’r un a gyflwynir yma mor ddeheuig gan Diarmuid. Barddoniaeth a grëwyd yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn beth oedd, ar y pryd, yn brifddinas ddiwylliannol y byd – sef Paris. Nid yn unig roedd beirdd, artistiaid a cherddorion yn tyrru i Baris o bob cwr o Ewrop, ac yn wir o’r byd, ond yn y cyfnod hwn roedd y ddinas wedi dod yn ddeunydd crai i farddoniaeth. O waith Charles Baudelaire – Les Fleurs du Mal [Blodau’r Drwg], casgliad o gerddi a gyhoeddwyd ac a gondemniwyd yn  1857 – ymlaen, daeth natur a’r bywyd gwledig yn thema anodd mewn barddoniaeth yn nhraddodiadau ieithoedd mwyafrifol Ewrop. Caiff natur fel thema ei gwrthod am nad yw’n adlewyrchu profiad dinesig y mwyafrif, neu o leiaf daw’n ddewis cymhleth mewn barddoniaeth, sy’n cynnig delweddaeth sydd yn gofyn am gael ei gwyrdroi neu ei thanseilio. Mae byd o wahaniaeth, felly, rhwng y farddonhiaeth y treuliais i flynyddoedd yn ei chwmni – ym Mharis ac yn Rhydychen – a barddoniaeth gynhenid Ceredigion.

Felly beth all rhywun fel fi ddweud wrthoch chi am y farddoniaeth hon? Y rheswm pam dwi yma heno yw bod llyfr Diarmuid wedi bod yn agoriad llygad imi – ac rwyf am ei argymell i chithau hefyd. Doedd gen i ddim syniad fod Diarmuid yn gweithio ar y llyfr hwn, ac felly hap a damwain oedd ei weld ar y silff, ond gwyddwn yn syth bod rhaid imi ei brynu. Ac wedyn, yn hytrach nag aros ar y pentwr o lyfrau ‘sydd angen eu darllen’, llyfrau gwaith, cefndirol, difyr ond beichus hefyd sydd gen i ar y gweill, fe ddarllenais y llyfr annisgwyl hwn yn syth, o glawr i glawr, gan synnu fy hun.  Doeddwn i ddim wir wedi sylweddoli bod gen i ddiddordeb arbennig yn y beirdd hyn. Wrth gwrs, roeddwn i’n ymwybodol iawn ohonyn nhw, a’u barddoniaeth, ond fel rhyw fath o gefnlen, rhywbeth y cymerwn yn ganiataol efallai, yn y cyfnod cyn imi adael Ceredigion yn 1990. Doedd gen i ddim  o’r ddealltwriaeth fanwl o’r traddodiad sydd mor amlwg yn llyfr Diarmuid, na’r drosolwg sydd yr un mor drawiadol yn y gyfrol, ond roedd gen i ddarnau o gerddi ar y cof: darnau a ddysgwyd at eisteddfodau, neu gyngerddau, fel ‘Rhoshelyg’ B.T. Hopkins, darnau a astidiwyd yn yr ysgol, neu bytiau o Dic Jones yr oeddwn wedi’u clywed. Ac wrth gwrs roedd y gynghanedd yn rhywbeth cyfarwydd: rhywbeth a ddysgwyd inni yn yr ysgol gynradd, a bûm i’n ffodus i fod yn aelod o ddosbarth cerdd dafod Roy Stephens yng Nghapel Seion. I mi roedd darllen y llyfr hwn yn fodd i gyfannu cylch. Mae Diarmuid yn y llyfr yn ddeuol; mae wedi ei wreiddio yng Ngheredigion ac yn deall y traddodiad o’r tu fewn fel petai, ond cyffro’r llyfr i mi yw gallu Diarmuid hefyd i gamu nôl yn reit bell a gweld y traddodiad barddol arbennig hwn o’r tu allan. Chwa o awyr iach yw’r olwg gymharol Ewropeaidd a gawn ganddo yma. Rydyn ni’r Cymry yn treulio llawer gormod o amser yn cymharu’n hunain gyda’n cymydog mawr, agosaf. Mae gweld ein hunain o berspectif Ewropeaidd yn gwneud mwy o synnwyr, ac yn y llyfr mae’r  cymhariaethau gyda barddoniaeth o Iwerddon, a chyd-destun Ffrainc a Llydaw yn taflu golau newydd ar draddodiad Ceredigion.

Ond gadewch inni ddychwelyd at y corff arall o farddoniaeth a grybwyllais ar y dechrau: cynnyrch Paris. I fi’n bersonol, dyw’r ddau fyd yma ddim mor bell oddi wrth ei gilydd, ac mae yna stori fach am un o feirdd mwyaf Ffrainc, Stéphane Mallarmé, a’r paentiwr Degas, sy’n awgrymu pam. Dyma’r stori yng ngeiriau Saunders Lewis:

‘Un diwrnod daeth Degas at Mallarmé wedi blino’n llwyr.  ‘Bûm drwy’r dydd yn ceision cyfansoddi soned’ ebr y paentiwr enwog, ‘a methu’n lân dyfod i ben â hi.  Ac eto, wyddoch chwi, yr oedd gennyf ddigon o syniadau.’  Atebodd Mallarmé, ‘Fy nghyfaill da, nid â syniadau y gwneir barddoniaeth, ond â geiriau.’  Diau nad yw’r cwbl o’r gwir yn ateb Mallarmé, ond y mae ynddo ddogn helaeth ohono.’[1]

A geiriau sy’n allweddol yma. Roedd Mallarmé ac eraill o’r cyfnod wedi mynd â chyfyngiadau ffurfiol barddoniaeth, h.y. odl, rhythm, adeiladwaith, i eithafion. Rhywbeth sy’n dod yn naturiol i’r beirdd Cymraeg hyn. Mae’n golygu mai’r geiriau sydd bwysicaf; nid yw eu hystyr yn ddigon, oherwydd rhaid pwyso a mesur bob gair, a chânt eu dewis ar sail eu sain, eu heffaith ar y glust, eu cerddoriaeth, eu cynodiadau neu eu cof, neu efallai eu hetymoleg – nid ar sail eu hystyr yn unig.

Os teithiais i yn bell iawn o Geredigion yn fy narllen i, gan ddilyn trywydd ieithoedd tramor, barddoniaeth a’m gyrrai ymlaen ar y daith, a ddaeth i fwcwl gydag astudiaeth fanwl o  farddoniaeth Mallarmé, ac mae’r diolch, i ryw raddau, i’n traddodiad barddonol ni. Dyna pam rwyf mor falch o weld cyhoeddi’r gyfrol hon, sy’n ail-gyflwyno’r traddodiad arbennig hwn inni.

Am drafodaeth bellach o rhai o’r themau a grybwyllir yma gweler fy nghyfrol Barddoniaeth i Bawb: Stéphane Mallarmé (1998).

al

Llun gan Aled Rees

English

I was explaining how far away I had travelled, in my reading, from our tradition in Ceredigion, to a specialization in French poetry of the last decades of the nineteenth century. Somewhere at the root of my own journey through languages stands this unique body of poetry that Diarmuid here presents so compellingly to a new international audience. There are many reasons why the time is ripe to present this poetry to a wider audience: Ecocriticism, or reading literature for what it tells us about ecology, and about human relations with the land, could fruitfully examine the poems of these ‘graduates of the countryside’ (p. 49), as Diarmuid calls them. Another reason  is the new emphasis in the study of literature on translinguistic, transnational research that rejects the model of ‘one state’ = ‘one language’ that has been dominant in Europe certainly since the French Revolution.

The story of the provincial writer in modern times is to write to the capital, to write with an eye on approval by some mainstream culture. The rural poet who stays in the rural context and writes of it and for it is a rarity. But let’s not be content to mine this poetry for details of a recently vanished way of life, as a historian might do. It is not for its paraphraseable elements that we return again and again to poetry, but for the words. Words are chosen not for their meaning alone, but for their flavour, sound, music, connotations and collocations. However, paraphrase, that is used effectively in this book, is arguably the best point of entry for the uninitiated, as so much of the unique, sophisticated idiom, with complex metres and formal constraints, cynghanedd, used by these poets, is at risk of being lost in translation.

What I enjoy most about this book is the way the discussion veers from the broad sweep of a  comparative, European overview to the micro-level of these exquisite texts. Why must we in Wales always compare with our nearest neighbour who happens to be politically and economically very powerful in a global context, and thus not typical of most of Europe? A European view can normalize Wales. Nevertheless, Diarmuid is best placed to assert, as he does in this book, that this body of work from Ceredigion is unique, and I’m so glad that through this book, I quote: we ‘hear the voices of a culture hitherto unknown outside the Welsh-speaking world’.

Llun gan Ifor ap Dafydd

[1] Saunders Lewis, ‘Syniadau a’r bardd: cerddi athronydd’, Baner ac Amserau Cymru, Chwefror 9, 1944, adolygiad o Ebyrth a cherddi eraill gan Hywel Lewis (Gwasg Aberystwyth, 1943).

Advertisements
This entry was posted in Cymraeg, Cymru, French literature, Llenyddiaeth Ffrangeg, Poetry, Uncategorized, Wales and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s