Ymwelwyr brenhinol ag Aberystwyth

Mae’n siwr bod nifer ohonom yn cofio’r croeso unigryw a gafodd y Frenhines Elizabeth wrth iddi ymweld ag Aberystwyth union ugain mlynedd yn ôl, ym mis Mai 1996? Ond pwy sy’n cofio am deithiwr o deulu brenhinol arall a dreuliodd noson yma ar y 10fed o Orffennaf 1844? Diddorol cymharu achos Elizabeth gyda’r croeso a gafodd Friedrich August II, Brenin Sacsoni yn Aberystwyth, pan oedd ar daith drwy Gymru yn 1844.

Wedi taith hir yr holl ffordd o Ferthyr Tudful, via Aberhonddu a Rhaeadr Gwy, arhosodd y Brenin ym Mhontarfynach i giniawa yn yr ‘Aberystwith Cottage’ (Hafod Arms). Mae’n siwr iddo ddyfaru mynd ar ei hynt i Aberystwyth y noson honno oherwydd pan gyrhaeddodd ei fawrhydi’r dref doedd yna ddim lle yn y llety! Yn wir bu’n rhaid i berchnogion y gwesty anfon eu gwestai i dŷ arall. Er bod hwnnw wedi ceisio cadw’i enw yn gyfrinach wrth deithio, roedd pobl y dre wedi dyfalu’r gwir amdano, ac wedi ymgasglu’n dyrfa i ganu ‘God Save the King’ y tu allan i’w ffenest, gan chwifio dwylo a baneri chymeradwyo’n frwd. Yn anffodus doedd dim amser i’r Brenin ymdrochi yn y môr y bore wedyn, oherwydd roedd yn awyddus i weld gogledd Cymru, yn enwedig yr Wyddfa a’r bont dros y Fenai. Mor drist oedd pobl Aberystwyth wrth ei weld yn ymadael am Fachynlleth, nes iddynt fynnu dilyn ei goets. Derbyniad parchus iawn felly! Ceir yr hanes mewn taithlyfr gan ei gydymaith Carl Gustav Carus, England und Schottland im Jahre 1844 Vol. 2 (Berlin: Verlag von Alexander Dunker, 1845).

 

Ryw ddegawd yn ddiweddarach, yn ystod hydref 1855, pwy ddaeth i Aberystwyth ond y Tywysog Louis-Lucien Bonaparte (1813-1891), disgynydd i Napoléon Bonaparte (pedwerydd fab ei frawd). Ac yn union fel Brenin Sacsoni, ceisiodd deithio o dan ffugenw, a methu’n llwyr! Ond fe lwyddodd i greu jôc o’r sefyllfa serch hynny. Ar wibdaith i Bontarfynach un diwrnod, pan y’i hysbyswyd gan ei dywysydd bod cerbyd a oedd newydd gyrraedd o Aberystwyth yn cludo Tywysog Bonaparte, fe synnodd Louis-Lucien, gan ofyn ‘Ble mae e?’.

‘Mae wrthi’n cael diod’ meddai’r tywysydd, ‘ac yn y man byddaf yn cael y fraint o’i dywys drwy’r tirlun’.

‘Ac a gaf innau’r pleser o’i weld?’, gofynnodd Louis-Lucien.

‘Cewch’, meddair tywysydd, gan ychwanegu: ‘gobeithio na fyddwch yn fy nghadw i’n rhy hir oherwydd bydd ar y Tywysog fy angen i’.

Mae’n debyg i Louis-Lucien ffugio dicter gan fynnu ei fod ef a’i ffrindiau yn bobl barchus hefyd, ac na ddylid eu brysio er lles unrhyw Dywysog yn y byd! Yn ystod ei arhosiad yn Aberystwyth manteisiodd Louis-Lucien ar y tywydd braf a mwynhau mynd am dro gyda’r nos. Ymwelodd hefyd â Chwm Cynfelyn i weld casgliad Mathew Davies Williams (brawd Parch Isaac Williams) o lyfrau prin, ac Eglwys Llanbadarn. Prynu llyfrau ac arsylwi ar dafodieithoedd Cymru oedd ei brif bwrpas yng Nghymru.[1]

Bu aelod o deulu brenhinol arall o Ffrainc yn y cyffuniau hefyd, ond prin iawn yw’r wybodaeth am daith Louis Antoine Philippe d’Orléans, duc de Montpensier (1775-1807) yng Nghymru. Mab i Louis Philippe a adnabyddid fel Philippe Égalité oedd Montpensier, a brawd i’r Louis-Philippe a ddaeth yn frenin Ffrainc yn 1830. Fe ddaeth o’i gartref yn Twickenham i arlunio yng Nghymru fwy nag unwaith ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir cofnod o’i daith drwy ogledd Cymru yn haf 1806 mewn cyfres o lythyron ganddo (ceir map o’i daith yma).[2] Fe frasluniodd yn Hafod Uchtryd, Cwmystwyth, yn 1803, ac yn ôl catalog o’i waith mae’r llun yn dangos dau ymwelydd yn synnu at y rhaeadr a roddwyd yng nghefn ogof gan Thomas Johnes.[3] Ond pan ymosodwyd ar y Palais-Royal ym Mharis yng ngwrthfyfel 1848, fe ddiflanodd y lluniau!

Ffrwyth prosiect ymchwil ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010’, a noddir gan yr AHRC, yw’r erthygl hon. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â’r wefan: etw.bangor.ac.uk

[1] Gweler The Cambrian Journal, 3 (1856), 1-13; Gwilym Arthur Jones, ‘Chwilen Gymreig Tywysog Ffrainc’, Y Casglwr, 7 (Mawrth 1979); Brinley F. Roberts, ‘Y Tywysog Louis-Lucien Bonaparte (1813-1891)’, Y Traethodydd 146 (1991), 146-61; Brinley F. Roberts, ‘”A Gentle and amiable Prince”: Louis-Lucien Bonaparte and Welsh Studies’, Transactions of the Honoruable Society of Cymmrodorion, new series, vol. 2 (1996), 79-99.

[2] Antoine Philippe d’Orléans, Correspondence to Mrs Forbes, Seaton House, Aberdeen. MS 2358 University of Aberdeen.

[3] J. Vatout, Notices Historiques sur les Tableaux de la Galerie de SAR Mgr le Duc d’Orléans (Paris: 1826), vol. iv, pp. 513-32.

This entry was posted in Cymraeg, Cymru, European Travellers to Wales, French Revolution, Travel writing, Uncategorized, Visual arts, Wales and tagged , , , , , , , , , , . Bookmark the permalink.

Leave a comment