Thomas Johnes yr Hafod, Julie a Jean-Jacques Rousseau

Prin bod angen cyflwyno teulu Thomas Johnes (1748-1816) yr Hafod i ddarllenwyr ardal Aberystwyth . Cofir am Johnes fel lluniwr y tirlun coediog a greodd ac a erys (i raddau) hyd heddiw ar dir Hafod Uchtryd, ac am ei ferch Mariamne, druan, fel llysieuegydd a fu farw cyn pryd. Yn ystod eu hamser yn yr Hafod plannwyd dros dair miliwn o goed, crëwyd gerddi blodau a rhwydwaith o lwybrau a fyddai’n caniatáu i’r ymwelydd ddarganfod rhyfeddodau’r fro. Ar y llaw arall, efallai bod angen cyflwyniad ar Julie, sef y prif gymeriad mewn nofel gan Jean-Jacques Rousseau: Julie ou La Nouvelle Héloïse. Oherwydd er i’w nofel wefreiddio darllenwyr Ewrop pan ymddangosodd yn 1761, gan newid bywydau a ffasiynau, a’n hagewdd tuag at natur, am byth, ychydig iawn o ddarllen sydd arni heddiw, er y gwelir crybwll ei theitl yn fynych.

Neges Rousseau yw bod trigolion y wlad yn gwbl wahanol i bobl y dref. Dywed yn blaen yn ei ragymadrodd ‘ffowch o’r trefi’. Cnewyllyn y plot yw bod Julie, fel Eloisa gynt, yn cwympo mewn cariad â’i thiwtor Saint-Preux, ond mae tad Julie yn gwrthod iddynt briodi oherwydd nad yw Saint-Preux yn uchelwr. Felly mae Julie yn priodi Wolmar, ac yn byw bywyd rhinweddol a duwiol gyda’i gŵr ar ystad yn Clarens, yn magu ei phlant, yn ffurfio syniadau am ‘natur’ ac addysg, yn goruchwylio bywyd a gwaith yr ystad gyda’i gwr, ac yn creu gardd arbennig. Cawn wybod am hyn oll trwy’r disgrifiadau o’r ystad, o’r ardd, ac o fywyd Julie, yn llythyron Saint-Preux, sydd wedi dychwelyd i’r ardal wedi sawl blwyddyn o deithio, ac yn ymweld â Clarens. Mewn un llythyr (Rhan 4 llythyr 10) ceir disgrifiad manwl o sut mae’r ystad yn Clarens yn gweithio: manylion y trefniadau, yn amaethyddol, yn economaidd. Pwysleisir yr arloesi, h.y. arbrofi amaethyddol ac hefyd y ffyrdd o drin a gofalu ar ôl staff. E.e. yn Clarens cynigir gwobr wythnosol i’r gweithwyr am waith caled. Maent yn derbyn tâl arferol, ond hefyd ychwaneg o arian am waith da, ynghyd â chynyddiad blynyddol [increment]. Yn Clarens mae’r meistri yn arwain trwy esiampl. Yn y llythyr nesaf ceir disgrifiad enwog o ardd Julie, ei ‘Elysée’, ei hoff le. Dysgwn mai Julie yn unig fu’n gyfrifol am y gwaith i gyd (gydag ychydig o arddwyr), er bod y canlyniad yn edrych yn gwbl naturiol, yn ôl honiad Saint-Preux. Ateb Julie yw ‘Natur wnaeth pob peth, ond o dan fy ngoruchwyliaeth’. Â Julie ymlaen i esbonio iddi ddewis planhigion brodorol, ac iddi daflu planhigion dringo fel garlant o goeden i goeden. Er mwyn rhoi’r argraff bod dŵr yn ffrydio’n naturiol drwy’r ardd, roedd hi wedi dargyweirio’r dŵr o’r ffynon ffurfiol yng ngardd ei thad. A thrwy hyn mae’n tanseilio ffurfioldeb gardd ei thad, a thraddodiad garddio’r Ffrancwyr. Mae’r coed yn ei gardd yn llawn o adar, oherwydd plennir cnydau yn unswydd er mwyn denu’r adar sy’n llenwi’r ardd â’u trydar, ac mae Julie yn darparu deunydd adeiladu nythod er mwyn eu cadw yno. Meddai Saint-Preux am y lle: ‘Nid yw ôl llaw’r garddwr i’w weld’. Pwysleisir hefyd bwysigrwydd hunan-gynhaliaeth: dylid bwyta bwyd lleol, syml, a chynhyrchu gwin a gwlân. Ond trasiedi sy’n cloi’r nofel, wrth i Julie farw wedi iddi neidio i’r llyn i achub un o’i phlant, ac wrth inni ddeall nad oedd hi, wedi’r cyfan, wedi concro ei theimladau tuag at Saint-Preux.

Mae’n bryd dychwelyd i’r Hafod, ac ymdrechion Thomas Johnes i ddofi natur, i berswadio natur i greu llun. Honnai Thomas Johnes iddo wneud hyn: ysgrifennodd at George Cumberland, awdur An Attempt to Describe Hafod (1796) fel a ganlyn: ‘by beautifying it [h.y. natur] I have neither shorn or [sic] tormented it’. Tystiodd James Edward Smith iddo lwyddo hefyd, wrth ddisgrifio gardd flodau Mrs Johnes fel ‘a happy effort of nature, rather than any labour of Art’. Y mae’r tebygrwydd rhwng Johnes a Rousseau ar y tir yn mynd yn ddyfnach na’r eshthetig. Yn y nofel mae Clarens yn batrwm o gymuned wledig sy’n weithgar, yn gynhyrchiol, yn ffrwythlon, ac yn hapus, oll o dan orychwiliaeth Julie a’i gŵr Wolmar. Fel Wolmar a Julie yn achos Clarens, gwelai Thomas Johnes yr angen i arloesi ym myd amaethyddiaeth. Arbrofodd gyda bridiau gwahanol o ddefaid a gwartheg a chnydau gwahanol, ac yn ei laethdy llwyddodd wneud parmesan, ymysg pethau eraill (ond canfu nad oedd marchnad ar gyfer parmesan yng Nghwmystwyth ddwy ganrif yn ôl, a bu’n rhaid gwerthu’r caws yn rhad i’w denantiaid). Yng nghyd-destun prinder bwyd yn sgil y rhyfel yn yr 1790au, roedd Thomas Johnes yn awyddus i fewnforio cant o deuluoedd o’r Swisdir i Geredigion oherwydd tybiai y byddent yn barotach i arloesi nag ydoedd y brodorion. Yn anffodus gwrthododd y llywodraeth ei gefnogi, ac aeth ei gynllun i’r wal. Daeth ag arbenigwyr o’r Alban serch hynny, ac hefyd aeth mor bell â chynhyrchu llyfryn i annog moderneiddio, ac i wella byd ei denantiaid: A Cardiganshire Landlord’s Advice to his Tenants (1800), a gyfieithiwyd i’r Gymraeg fel Cyngor Priodor o Geredigion i Ddeiliaid ei Dyddynod (1800). Yr hyn sy’n amlwg, ac yn drawiadol, yw bod hyn yn fwy na mater o fod eisiau cynyddu’r elw o’r tir. Roedd Thomas Johnes yn awyddus i wella bywyd y gymuned. Roedd ef a’i wraig yn fawr eu gofal am eu tenantiaid – yn darparu meddyg ar eu cyfer, a moddion, adeiladwyd eglwys ac ysgol, a gwnai Mrs Johnes yn siwr bod y merched yn dysgu darllen a nyddu yn yr ysgol a oruchwiliai.

Hoffwn feddwl bod Julie ou La Nouvelle Héloïse wedi chwarae ei rhan yn hanes yr Hafod. Oedd y nofel yn un o’r llu cyfrolau Ffrangeg yn llyfrgell enwog Thomas Johnes (er gwaethaf bodolaeth catalogau o lyfrau Hafod, mae’n anodd gwybod beth oedd yno ar ba bryd, e.e. gwyddom fod gweithiau Rousseau yn llyfrgell Pesaro, ond ni chyrhaeddodd y casgliad hwn Hafod tan ar ôl tân 1807, ac felly’n rhy hwyr i fod wedi ‘dylanwadu’ ar Hafod)?  Efallai i’r Thomas Johnes ifanc ddod ar draws y nofel yn ystod ei deithiau yn Ffrainc a’r Swistir? Yn sicr doedd arno ef, na’i ferch Mariamne, ddim angen y cyfieithiad Saesneg a ymddangosodd yn fuan iawn wedi’r gwreiddiol: roedd ganddynt y gallu a’r diddordeb i fynd at y Ffrangeg. O ystyried angerdd Mariamne am natur ac am lyfrau, ac o gofio poblogrwydd nofelau Rousseau, mae’n anodd gen i gredu nad oedd hi wedi darllen yr enwocaf ohynynt.

Hyd yn oed os oedd enw Rousseau yn anhysbys i’r teulu hwn, gwelir ei ôl ar y bryniau yng Nghwmystwyth, oherwydd Rousseau oedd wrth wraidd y newidiadau syfrdanol yn yr agwedd tuag at natur a’r tirlun a welwyd ym Mhrydain yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Newidiadau y mae Thomas Johnes yn rhan ohonynt.

Advertisements
This entry was posted in Cymraeg, Llenyddiaeth Ffrangeg and tagged , , , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s