Merched Dafydd

Ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer ‘Yr Aradr’, sef cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Prifysgol Rhydychen, tua diwedd y 1990au. Am ryw reswm ni ddaeth y rhifyn o’r wasg.

Wyddoch chi Ddafyddion inni ddathlu yn ystod y flwyddyn academaidd sydd newydd ddarfod ddeng mlynedd ar hugain o gwmni merched yn ein Cymdeithas hynafol? Na, mae’n siwr, oherwydd chafwyd dim ffys na ffwdan. Amcan y llith hon fydd awgrymu pam nad oedd angen dathlu na chofnodi’r achlysur yn ein cornel glyd o Rydychen; ond ei bod hi’n stori dra gwahanol yng ngweddill y Brifysgol.

Am dros ddwy ran o dair o’n hanes Morfudd a Dyddgu oedd merched y Dafydd, h.y. bodau dychmygol o freuddwydion bardd-ferchetwr mwyaf ein llên oedd yr unig ferched a gai groeso yng nghyfarfodydd y Gymdeithas arbennig hon. Dafydd ei hyn oedd ar fai i ryw raddau, oherwydd ofnai’r selogion na fyddai’r drafodaeth ‘ysgolheigaidd’ a geid yn wythnosol ar un o’i gywyddau wrth ddant y rhyw deg! Yn wir, yn ôl y llyfr cofnodion dyma oedd yr unig wir ystyriaeth pan godwyd y mater:

Credai’r brawd Alan Williams nad oedd holi ar y cywydd yn addas i gymdeithas gymysg. Anghytunai llawer ag ef a mynnodd Gerson fod merched yr oes oleuedig hon yn bell o fod yn naïf (Hydref 14, 1966),

er, byddai’n ddiddorol gwybod rhagor am sylwadau’r Athro Idris Foster a gofnodir fel a ganlyn:

Rhoddwyd rhagymadrodd hanesyddol gan yr Athro Foster ac amlinellodd rai o’r anhawsterau a fyddai yn wynebu’r Dafydd os penderfynai’r brodyr fod yr amser wedi dod pryd y dylid gwahodd ferched i’r Gymdeithas (Hydref 14, 1966)

ond nid yw’r ysgrifennydd – Gareth Roberts o Goleg Iesu – yn ymhelaethu ar yr ‘anhawsterau’ hyn.

Mae’n hawdd, efallai, i’r aelodau presennol anghofio pa mor ganolog oedd y cywydd, ac yn arbennig y sesiwn holi a’i ddilynai, i’r cyfarfodydd wythnosol; maes chwarae i ddychymyg a chlyfrwch y bechgyn oedd y sesiynau hyn, ac yn sicr mae’r ‘negeseuon’ ynghyd â’r llaw-fer yr esgorwyd arnynt gan y cerddi, e.e. y cyngor: ‘Peidiwch byth a disgwyl i unrhyw ferch gadw addewid’, neu’r talfyriad ‘S.A.’ am ‘sex appeal’ (Hydref 14 1966) yn argoeli’n o ddrwg ar gyfer eu cyfathrach â merched o gig a gwaed. Yn briodol felly, y cwestiwn cyntaf a holwyd gan ferch (yn ôl y cofnodion) oedd un Elan Closs Roberts: a oedd Morfudd yn bod…?

Ydy, mae’n ymddangos mai eu dylanwad ar y dewis o gywydd oedd yr unig beth a boenai’r brodyr ynglyn â dyfodiad y merched i’w plith, er, ceir ambell sylw awgrymog am eu dillad – ond roedd hi’n oes aur y sgert fini wedi’r cwbl. Yng nghyfarfod yr 28ain o Hydref 1966, a merched yn bresennol fel ‘darpar-chwiorydd’, poenai’r brodyr i’r Caplan ddewis cywydd ‘addas’ ar eu cyfer, h.y. un di-sbarc:

Yr oedd yn amlwg fod y brawd Emyr Daniel yn ysu am gywydd pornograffig pan awgrymodd fod y cywydd yn un arbennig o addas i ferched

ond mae’n amlwg oddi wrth y drafodaeth a ddilynodd nad oedd presenoldeb myfyrwragedd go-iawn am amharu dim ar sbort a bechgyn; â’r cofnodion ymlaen:

Gofynnodd y brawd Keith pryn o’r ddwy oedd yn ddysgedig. Dyddgu oedd ateb y caplan ac yr oedd yn amlwg fod yr ateb yn plesio’r brawd i’r dim am ryw rheswm. Yna cafwyd jôc gan y llywydd sef bod Dyddgu wedi ennill ei B.A. – byth adref.

Er syndod, dangosodd y merched eu doniau yn yr un gêm, a’i chwarae lawn cystal, os nad yn well na’r bechgyn, ac erbyn tymor y Drindod 1967 â merched yn llenwi’r ddwy brif swydd, cofnodir hanes Elan Closs Roberts yn dewis cywydd mis Mai gan Gwen Aaron fel hyn:

Cywydd o fath anghyffredin i aelodau’r Dafydd oedd e – y tu allan i’r caneuon anllad. Arloesi’r ffordd y mae’r Caplan tuag at draddodiad mwy dysgedig a llai rhwystredig yn y gymdeithas. Nid cywydd merch oedd e, na chywydd gŵr, ond cywydd i fis Mai. Bu rhyw dwpsyn yn gofyn ai enw merch oedd Mai. Myn yffarn, dyna feddwl-un-ffordd sydd gan rai pobl. Nid miss Mai – cymeriad diddorol y tystir iddi yng nghofrestrai plwy Llanbadarn, yffarn o ferch cnawdol gwalltolau a ennillodd gydag anrhydedd a chlod mawr gystadleuaeth harddwch ar y prom yn Aberystwyth yn 1334 – ond mîsh mai.

Beth bynnag fo’ch barn am gywirdeb gwleidyddol yr holl dynnu coes yma, mae’n amlwg i’r trefniadau ffurfiol i dderbyn merched yn gyflawn aelodau fynd rhagddynt yn reit ddi-ffwdan. Codwyd y mater gyntaf oll gan Gerson Davies yng nghyfarfod cyntaf Tymor Mihangel 1966:

Wedi seibiant angenrheidiol i rai o’r brodyr dychwelwyd at fusnes. Poenwyd Gerson gan y ffaith nad oedd unrhyw Gymdeithas Gymraeg yn Rhydychen i ferched y Brifysgol. […]

Cafwyd trafodaeth hir a synhwyrol ar y pwnc ac, o dan arweiniad ein llywydd, penderfynwyd ar y cynllun canlynol:

bod y brawd Gerson Davies yn cynnig yn ffurfiol yn cyfarfod nesaf y Dafydd y dylai’r ysgrifennydd anfon llythyr at bob Cymraes yn y Brifysgol sydd yn medru’r iaith i roi gwybod fod croeso iddi fynychu cyfarfodydd y Dafydd am y Tymor hwn, gyda’r bwriad o ystyried ar ddiwedd y tymor y posibilrwydd o ethol merched i mewn i’r Gymdeithas. Cyfarwyddwyd yr ysgrifennydd gan y brodyr i anfon copi o’r cynnig uchod at bob aelod o’r Gymdeithas er mwyn iddynt gael pleidleisio ynteu yn y cyfarfod nesaf neu drwy anfon llythyr.

Cafwyd trafod pellach wythnos yn ddiweddarach:

Ymlaen at fusnes ac yr oedd pawb yn gwybod beth i ddisgwyl heno. Amlinellodd y brawd Gerson ei gynnig unwaith eto gan bwysleisio mai arbrawf oedd hi am y tymor presennol. Er bod y brodyr wedi trafod y cynnig ar hyd yr wythnos yr oedd pawb yn mynnu rhoi ei big i fewn cyn y bleidlais. Dyfynnodd y brawd Gwyn Ramage o lythyr a anfonwyd at y Gymdeithas gan Gwen Aaron: ‘Yn sicr, byddai’r gymdeithas fel y saif yn bresenol, yn hollol annaturiol i’r dyn a’ch anrhydeddodd a’i enw’. O’r ochr arall roedd rhai o’r brodyr yn parhau i fod yn ansicr o un neu ddau o bethau. Cynnigwyd taflu’r cywydd allan gan un o’r brodyr a fydd yn ddi-enw er mwyn ei gadw rhag unrhyw perygl. Nid oedd neb yn barod i eilio’r cynnig ac achubwyd y dydd. O’r diwedd penderfnwyd pleidleisio. Eiliwyd y cynnig yn ffurfiol gan y brawd Gwyn Ramage ac o’r brodyr a oedd yn bresennol yr oedd 8 o blaid a 3 yn erbyn. Derbynwyd 6 llythyr o frodyr eraill 5 ohonynt o blaid ac un yn erbyn. Felly cafwyd 13 o blaid y cynnig, 4 yn erbyn a chyda bendith ucheleglwysig ein llywydd paswyd garreg filltir yn hanes y gymdeithas. Fel y dyfynodd un o’n cyn ysgrifenyddion – ‘bugeiliaid newydd sydd / Ar yr hen fynyddoedd hyn’. A gellir ychwanegu bod y bugeiliaid newydd yn dechrau sylweddoli nad defaid yw’r unig anifeiliaid yn y byd!

Erbyn diwedd y mis, a thrydydd cyfarfod y tymor, roedd pethau’n dechrau siapio:

Yn sydyn clywyd bloedd adnabyddus o waelod yr adeilad ac am naw o’r gloch i’r eiliad ymddangosodd y brawd Gerson ynghyd â’r darpar chwiorydd Elan Closs Roberts a Mari Pritchard,

yn bresennol hefyd roedd Gwen Aaron, Helen Phillips a Jennifer Thomos i drafod a ddylai’r Gymdeithas dderbyn cynnig i fynd i sôn am y newid cyfansoddiadol ar y teledu, gwrthodwyd y syniad ond penderfynwyd anfon llythyr at y Western Mail yn dilyn erthygl a oedd wedi ymddangos, a oedd yn llawn camsyniadau.

Yna ar y 25ain o Dachwedd penderfynwyd ethol merched yn gyflawn aelodau, ar yr 20fed o Ionawr fe’u hetholwyd, ac yna ar y 27ain cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf dan nenbren un o golegau’r merched – Somerville, a chafwyd y papur cyntaf gan ferch – Gwen Aaron. Ond nid dyna ddiwedd y stori, oherwydd ar y 24ain o Chwefror ceir y cofnodion cyntaf gan ferch (rhai taclus a chywir mae’n rhaid imi ddweud!!), ac erbyn diwedd Tymor yr arholiadau a’r pyntio roedd merch yn Gaplan.

Dyma stori hapus, fersiwn optimistaidd – onid felly y dylai pethau ddigwydd? Yn gyntaf derbynnir merched yn gyflawn aelodau, yna yn syth dont yn aelodau gweithgar a gwerthfawr, ac yn fuan wedyn maent yn hollol gyfartal hyd yn oed ar lefel y pwyllgor. A, diolch i’r drefn, dyma sut mae pethau hyd heddiw ar y Dafydd o leiaf. Diweddglo hapus sydd i’r stori, felly, a hynny sy’n caniatáu inni beidio cofnodi’r digwyddiad, yn wir mae’n rhyddhad cael anghofio weithiau. On wiw inni anghofio’r newidiadau oedd yn digwydd ar hyd a lled Rhydychen tua’r un cyfnod, sef bod y colegau eu hunain yn newid eu statws bob yn un ac un. Bellach agorwydd drysau pob un o’r colegau dynion i ferched, ar bob lefel, a thra bod bron i hanner y myfyrwyr is-raddedig yn y Brifysgol yn ferched, mae canran y merched sy’n dysgu’r myfyrwyr hyn yn gywilyddus o isel – yn is, credwch neu beidio, na phan oedd merched ond yn cael ymgeisio am swydd academaidd yn un o bump coleg merched y Brifysgol – heddiw does yr un ferch yn yr Adran Gemeg er enghraifft. Yn y gwyddorau yn arbennig, mae llai o ferched yn dal swyddi darlithio nawr nag a fu yn ystod y 1960au. Gwelir yr un patrwm bob tro: coleg merched yn derbyn dynion yn gymrodorion, a chyn pen dim o amser mae’r merched yn lleiafrif yn yr SCR, coleg dynion – ar y llaw arall – yn penderfynu derbyn merched, ac er bod eitha canran o’r myfyrwyr erbyn hyn yn ferched, eithriadau prin yw’r rheiny sy’n cael eu hethol i gymrodoriaeth barhaol.

Yn ystod y flwyddyn (1996-7) aeth hi’n greisis yn Rhydychen ar yr unig ran o’r Brifysgol lle nad yw merched yn lleiafrif (ag eithrio Coleg Somerville, ond am ba hyd yn eich tyb chi?); sôn ydw i, wrth gwrs, am drafferthion ariannol-gyfreithiol Coleg Santes Hilda, a gosbir yn ariannol oherwydd y modd y dehonglir yr union ddeddfwriaeth oedd i fod i sicrhau tegwch i ferched.

Telir cyflog cymrodor ar y cyd rhwng y Coleg a’r Brifysgol, ond tra bod y Coleg ei hun yn cael hysbysebu swydd ar gyfer menyw, nid yw’n gyfreithlon i’r Brifysgol gymeradwyo hynny, felly mae’n rhaid i’r coleg godi arian preifat – miliwn o bunnoedd i waddoli cymrodoriaeth, ac er nad yw hynny’n swm enfawr i’r cyn golegau dynion, mae’n grocbris i goleg merched sydd ond yn gant oed. Mae yna un ateb hawdd, sef ceisio caniatâd y Frenhines i newid cyfansoddiad y Coleg ac agor y Gymrodoriaeth i ddynion, a dyna pam iddi fynd yn bleidlais yno fis Ebrill eleni. Er mawr syndod i weddill Rhydychen, ac er mawr ryddhad i fwyafrif llethol myfyrwyr Santes Hilda (84% o’r MCR a bod yn fanwl gywir), penderfyniad y cyfarfod tyngedfennol hwnnw oedd ymladd yn hytrach nag ildio, oherwydd dadleir fod angen coleg merched heddiw nid yn unig ar ferched (h.y. y rhai sy’n dewis dod yma), ond hefyd ar y Brifysgol.

Sefydlwyd Coleg Santes Hilda i ymladd yn y frwydr dros addysg i ferched, a dengys safiad aelodau’r Coleg yn gynharach eleni fod y frwydr ymhell o fod drosodd yn eu barn hwy. Awgrym gwaith ymchwil diweddar (gweler llyfryddiaeth) yw ei bod hi’n haws i ddyn gael ei benodi i’r math yma o swydd. Mae’r ffaith nad oes yr un ferch yn darlithio yn yr Adran Gemeg, er enghraifft, yn broblem i’r Brifysgol; beth ddigwyddodd i’r holl ferched â gradd yn y pwnc? Pa fath o neges mae’r sefyllfa hon yn ei hanfon at yr is-raddedigion, a’u hanner nhw’n ferched? A yw hi’n bosib bod y dynion ar y pwyllgorau penodi (a dynion ydyn nhw fwyaf wrth reswm, heblaw yn Santes Hilda) yn prisio gwaith ymchwil am ei faint a’i hyd yn fwy na’i ansawdd a’i safon? Mae’n anodd i rywun sydd wedi newid Prifysgol neu labordy er mwyn dilyn partner, neu wedi cymryd seibiant o’r gwaith er mwyn magu plentyn, gynhyrchu’r un faint o gyhoeddiadau â rhywun sefydlog, ond pwy sydd i ddweud nad yw gwaith y fenyw lawn cystal o ran safon, na chwaith ei bod yn diwtor yr un mor dda, yn arbennig ar gyfer myfyrwragedd.

A dyma ochr arall y broblem: mae yn agos at hanner yr is-raddedigion yn Rhydychen yn ferched, ond dim ond hanner cymaint o ferched ag o fechgyn sydd yn ennill gradd dosbarth cyntaf, er ei bod yn amlwg o edrych ar ganlyniadau Safon ‘A’ nad ydynt yn dioddef o ddiffyg gallu cynhenid. Pwy sy’n poeni ynglyn â hyn? Wel, yr unig le yn Rhydychen lle nad yw merched yn lleiafrif…

Heblaw am y ddadl amlwg braidd fod gan ferched yr hawl i ddewis coleg merched (a’r faith fod cynifer yn gwneud hynny yn ddigon o brawf o’r galw), yn fy marn i y ffordd orau i daclo’r problemau ar hyn o bryd yw trwy wneud yn siwr fod yna un gornel fach o Rydychen ble mae merched yn rhedeg y sioe, yn penodi, yn rheoli, yn cymryd penderfyniadau, yn llunio ac yn gweithredu polisïau. Dyw cadw Coleg Santes Hilda yn goleg merched ddim yn ei hunan yn mynd i sicrhau mwy o chwarae teg iddynt yn y Brifysgol, dim ond trwy sicrhau bod merched yn rhedeg y lle y gellir gwneud hyn. Ac felly erfyniaf arnoch i gefnogi ymdrechion Santes Hilda yn ystod y flwyddyn sy’n dod (1997-8) i godi ymwybyddiaeth gweddill y Brifysgol a’r cyhoedd o’r frwydr sydd eto i’w hymladd.

Llyfryddiaeth

Evans, D. Ellis, ac R. Brinley Jones (gol.) Cofio’r Dafydd: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 1886-1986 (Abertawe: Ty John Penry, 1987)

Goodden, Angelica ‘Women’s last stand in Oxford’, The Times, 24 Mawrth, 1997

Mellanby, J.H. (ed.) A Celebration of the Education of Women: The St. Hilda’s College Centenary Symposium (Oxford, 1993)

Mellanby, J.H. a J.N.P. Rawlins, ‘The gender gap: the case of PPP’, Oxford Magazine, 144 (Tymor y Drindod 1997), 2

Mellanby, J. H. ‘The Gender Gap in Finals at Oxford’, Oxford Magazine, 176 (Tymor Ilar 2000), 2-4

Motluk, Alison ‘Sex bias study shocks world’, New Scientist, 24 Mai 1997

Wenneras, Christine and Agnes Wold ‘Nepotism and sexism in peer-review’, Nature 387 (22 Mai 1997), 341-43

Advertisements
This entry was posted in Cymraeg and tagged , , . Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s